P-05-928 Cael gwared ar y geiriau sy’n hyrwyddo adfer adnoddau olew a nwy o Gynllun Morol Cenedlaethol Cymru
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Susanna Kenyon, ar ôl casglu 80 o lofnodion ar-lein a 173 ar bapur, sef cyfanswm o 253 o lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Gan fod eich Llywodraeth bellach wedi datgan argyfwng hinsawdd, gofynnwn y dylid cael gwared ar y geiriau hyn o’r Cynllun Morol drafft: “manteisio i’r graddau mwyaf posibl yn economaidd ar ddatblygu ac adfer adnoddau olew a nwy’r DU er mwyn darparu cyflenwad diogel a dibynadwy o danwyddau ffosil i fusnesau a defnyddwyr yng Nghymru a’r DU”.
Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad
· Ceredigion
· Canolbarth a Gorllewin Cymru